Cafodd y cynnig i gyflwyno system Trwyddedu Clybiau ymysg y gwledydd sy’n aelodau o UEFA ei grybwyll am y tro cyntaf yn ystod hydref 2000. Cynigiodd UEFA safon Ewropeaidd ar gyfer pêl-droed fel model ar ôl ymgynghori â’r gwledydd hynny. Cafodd cynigion terfynol UEFA eu cymeradwyo yn ystod 2002. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithio’n ddiflino i gynhyrchu Llawlyfr Trwyddedu Clybiau, a gafodd ei achredu gan UEFA fis Mehefin 2003. Mae’r Llawlyfr yn dryloyw ac yn gyson â safonau UEFA. Wedi dweud hynny, cafodd y Gymdeithas hawl i gyflwyno rhai eithriadau ac fe’u cymeradwywyd. Byddwn yn trafod y rhain nes ymlaen.
Mae gymaint o fanteision i’r system gan ei bod yn nodi’r gweithdrefnau a’r safonau ansawdd y bydd y clybiau yn cael eu mesur yn eu herbyn o ran gwelliant parhaus. Yn amlwg, mae’r ffocws ar sefydlu set uwch o safonau o ran pêl-droed ddomestig Cymru, a fydd yn ei dro o fudd i bawb sy’n perthyn i’r gymuned bêl-droed, boed yn gefnogwyr, rhanddeiliaid, chwaraewyr neu ffisiotherapyddion.
Caiff y safonau eu cyflwyno ar ffurf pum pennawd sef Seilwaith, Chwarae (Ieuenctid a Hyfforddi), Cyfreithiol, Personél a Gweinyddu ac Ariannol.
Fis Hydref 2006, cafodd ail Lawlyfr Trwyddedu Clybiau UEFA Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei achredu ar ôl i UEFA benderfynu bod angen gwella’r system gan gryfhau mwy fyth ar y Meini Prawf. Mae Llawlyfr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddogfen sy’n cynnwys dros 150 o dudalennau. Felly, fe fyddai’n amhosibl ac yn dorcalonnus hyd yn oed i mi fynd ati i nodi ac esbonio pob maen prawf a gaiff ei gynnwys yn y Llawlyfr yn yr erthygl hon. Ond, fe wnaf i fy ngorau i drafod y rhai sydd fwyaf arwyddocaol yn fy nhyb i.
Mae’r categori Seilwaith wedi’i ailwampio a’i gysoni gyda Meini Prawf Cystadleuaeth Clwb UEFA ar gyfer Stadia. Mae’n rhaid i glwb gael cae, boed yn perthyn iddynt hwy neu unrhyw un arall yng Nghymru, sy’n gymwys i gynnal gemau Cystadleuaeth Clwb UEFA. Golyga hyn y dylai fod ag o leiaf 1,000 o seddi unigol a sefydlog ar gyfer gemau Rowndiau Cynderfynol Cyntaf ac yna 3,000 o seddi wedi hynny.
Mae elfen Chwarae y weithdrefn drwyddedu yn ymwneud â hyfforddiant a datblygu ieuenctid. Bydd gan bob clwb o leiaf ddau dîm ieuenctid rhwng 16 a 19 oed, gydag un Dan 15 ac un Dan 10. Ceir gofyniad newydd yn Ail Fersiwn y Llawlyfr Trwyddedu sy’n ymwneud â Phrofion Meddygol Chwaraewyr. Mae’n rhaid i bob chwaraewr sy’n chwarae i Dîm Cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gael Prawf Meddygol Personol gan gynnwys Echocardiogram ac ECG.
Mae’r drydedd adran yn ymwneud ag endid cyfreithiol y clwb. Mae’n rhaid i’r Clwb fod â Statudau Clwb, rhaid iddo chwarae mewn Cystadlaethau a gydnabyddir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, rhaid iddo gydymffurfio â Rheoliadau Trwyddedu, cyflwyno ei lofnodwyr awdurdodedig i’r Gymdeithas a hefyd ddarparu Sicrwydd Deiliadaeth ar gyfer y cae y mae’n bwriadu chwarae ei gemau Ewropeaidd arno.
Yn weinyddol, bydd gofyn i’r clwb benodi’r canlynol o leiaf: Rheolwr Cyffredinol, Ysgrifennydd Clwb, Swyddog Ariannol, Pennaeth Diogelwch a Phennaeth Datblygu Ieuenctid er mwyn bodloni canllawiau trwyddedu. Hefyd, mae’n rhaid i Feddyg ardystiedig a Ffisiotherapydd Siartredig fod ar gael ym mhob gêm gartref. Mae’n rhaid i Reolwr y Tîm feddu ar Drwydded ‘Pro Licence’ neu rhaid iddo/i fod wrthi’n astudio i gael Trwydded ‘Pro Licence’ neu fod â phum mlynedd o brofiad o Dystysgrif Cymhwysedd yn Uwch Gynghrair Cymru.
Dylai’r holl glybiau fod ag arferion ariannol da a bydd gofyn iddynt hefyd ddarparu copi o’u datganiadau ariannol archwiliedig i’r Trwyddedwr erbyn diwedd mis Chwefror. Ni chaiff y clwb fod ag unrhyw symiau hwyr sy’n daladwy ganddynt sy’n deillio o weithgareddau trosglwyddo neu tuag at eu cyflogeion. Byddai methu â bodloni’r gofynion hyn yn arwain at wrthod rhoi trwydded.
Mae elfen olaf y weithdrefn drwyddedu yn ymwneud â chodau ymarfer. Nid yw’r rhain yn hanfodol ond yn hytrach fe’u hystyrir yn arfer gorau. Er nad yw bod â Chod Ymarfer yn ofynnol gan UEFA, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweld y Codau fel ffordd wych o wella rhai safonau penodol mewn perthynas â phêl-droed ddomestig yng Nghymru. Mae’r adran yn cynnwys diogelu plant a hyfforddwyr, siarter cefnogwyr, materion cydraddoldeb, ymgysylltu â’r gymuned a chwarae teg. Mae gofyn i glybiau bennu Swyddog Diogelu Plant yn enghraifft arall o’r meini prawf yn ogystal ag adolygu siarter y cefnogwyr bob blwyddyn. Dylent gefnogi amrywiol ymgyrchoedd sy’n ceisio mynd i’r afael â materion cydraddoldeb, drwy gyfrwng eu cylchlythyrau neu raglenni’r gemau yn ogystal â hyrwyddo gweithgareddau cymunedol. Yn olaf, bydd clybiau yn gallu dangos eu bod yn cefnogi egwyddor Chwarae teg.
Mae pob un o glybiau Uwch Gynghrair Cymru wedi mynd drwy’r broses drwyddedu ers Tymor 2003/2004 gyda’r Clybiau Trwyddedig cyntaf yn cael eu cyhoeddi fis Ebrill 2004. Dyfarnwyd Trwydded i CPD y Drenewydd yn unig gan y Corff Gwrandawiad Cyntaf Annibynnol. Ond ar ôl apelio, dyfarnwyd trwydded i CPD Y Rhyl, TNS, Sir Hwlffordd a Thref Aberystwyth ym mis Mai. Cododd y ffigur hwn i wyth o Glybiau Trwyddedig y flwyddyn ganlynol, yna naw yn 2005/06 ac yna deuddeg yn 2006/07 yn y rownd olaf o dan y Llawlyfr Trwyddedu Cyntaf.
Mae’n bwysig nodi hefyd y gall clwb sydd wedi mynd drwyddo i un o Gystadlaethau UEFA wneud cais am Drwydded Arbennig yn seiliedig ar ei lwyddiant wrth chwarae pêl-droed y tu allan i Uwch Gynghrair Cymru (h.y. drwy ennill Cwpan Cymru) er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Ewropeaidd y tymor canlynol.
Felly, mae llawer iawn o waith a thrafod wedi bod rhwng y clybiau sy’n aelodau a thîm Trwyddedu’r Gymdeithas ers cyflwyno’r system yn ystod tymor 2003/2004. Fodd bynnag, mae’r manteision sy’n dod i ran pawb sy’n ymwneud â phêl-droed yng Nghymru wir yn cyfiawnhau’r ymrwymiad a’r ymroddiad sydd ei angen gyda’r drefn hon.
Andrew Howard
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Rheolwr Trwyddedu Clybiau
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y weithdrefn Drwyddedu Clybiau, mae croeso i chi gysylltu ag Andrew Howard drwy e-bostio ahoward@faw.co.uk neu ffonio 029 20435 847.
Mr. Jonathan Ford Cyfarwyddwr y Weinyddiaeth
Mr. Andrew Howard Rheolwr Trwyddedu
Mr. David Miller Swyddog Trwyddedu