Enwi carfan Dan 16 Cymru ar gyfer y Swistir

Mae Cyfarwyddwr Technegol a Rheolwr Tîm Dan 16 Cymru, Osian Roberts, wedi enwi ei garfan ar gyfer gemau’r tîm Dan 16 yn erbyn y Swistir a Gwlad Belg a fydd yn cael eu cynnal yn y Swistir yn hwyrach yn y mis.

Mae’r gemau fel a ganlyn:

Dydd Mawrth 17 Ebrill:
Blwyddyn geni 1997 Y Swistir v Cymru – Cic gyntaf 7pm (amser lleol) Stadiwm Payerne

Dydd Mercher 18 Ebrill:
Blwyddyn geni 1997 Cymru v Gwlad Belg – Cic gyntaf 7pm (amser lleol) Stadiwm Payerne

Rhain yw gemau cyntaf grŵp oedran 1997 fel rhan o’u paratoadau ar gyfer cystadleuaeth y Victory Shield.

Mae’r garfan fel a ganlyn:

Luke Pilling – CPD Tranmere Rovers – University Academy
Lewis Thomas – CPD Dinas Abertawe – Ysgol Gyfun Pentrehafod
Ioan Evans – CPD Sheffield United – Ysgol Gyfun Wath
James Graham – CPD Everton – Ysgol Maes Garmon
Cian Harries – CPD Coventry City – Ysgol Arden
Shane Parry – CPD Dinas Caerdydd – Afon Taf
Rollin Menayese – CPD Dinas Caerdydd – Ysgol Uwchradd St Joseph
Lloyd Humphries – CPD Dinas Caerdydd – Ysgol Gyfun Dŵr y Felin
Charly Edge – CPD Everton– The Marches
Edward Speed – CPD Wrecsam– Coleg Abbey Gate
Alex Penny – CPD Hull City – Ysgol Uwchradd Withernsea
Daniel James – CPD Hull City – South Hunsley
Harry Wilson – CPD Lerpwl– Ysgol Dinas Bran
Joseff Morrell – CPD Bristol City – The Castle Thornbury
William Abbots – CPD Bolton Wanderers – Ysgol Ramadeg Manceinion
Ellis Bellamy – CPD Dinas Caerdydd – Coleg St Johns
Clive Smith – CPD Man City – Coleg St Bede
Nyasha Mwamuka - CPD Tref yr Amwythig- Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion